Gwasanaeth Bwyd Harlech Foodservice
Hafan Amdanom Cynnyrch Gwasanaeth Ffeiliau iw llwytho i lawr Cysylltu Gwefan Gymraeg English Website

Gwasanaeth Lleol, Cryfder Cenedlaethol

Croeso i Harlech Foodservice Cyf, sydd â’i bencadlys ger Pwllheli yn ardal hyfryd Gogledd Cymru.

Sefydlwyd Harlech yn 1972 fel cwmni teuluol bychan, ac er ei fod yn dal yn gwmni annibynnol, sy’n cael ei reoli gan y teulu sy’n berchen arno, mae’n cyflogi dros 70 o staff lleol llawn-amser – y rhan fwyaf ohonynt yn ddwyieithog.

Fel llawer o fusnesau yn y sector arlwyo, mae’r busnes yn un tymhorol i raddau helaeth, ond yn ffodus iawn rydym wedi cael cytundeb gan awdurdodau lleol, gan gynnwys ysgolion.

Er mwyn cystadlu’n effeithiol â chwmnïau cenedlaethol, ymunodd y cwmni yn 1993 â Fairway Foodservice ccc, y consortiwm prynu bwyd annibynnol mwyaf yn y DU. Yn fwy diweddar, rydym wedi ymuno â grwpiau prynu Ice Cream World a Nisa Today’s. Mae hyn wedi rhoi per prynu cenedlaethol helaeth i Harlech yn holl gategorïau’r sector gwasanaethau bwyd, h.y. bwydydd wedi’u rhewi, bwydydd oer, bwydydd cyffredinol, nwyddau glanhau, cynnyrch untro a hufen iâ, gan ein galluogi i ddal gafael ar yr atebolrwydd lleol a’r gwasanaeth personol. Dyma’n cryfder a’r hyn yr ydym yn adnabyddus amdano.

Sicrwydd Ansawdd
Mae diogelwch bwyd, yn gwbl briodol, yn bwysig iawn i bawb, ac mae’n braf gwybod bod Harlech a phob un o’i gyflenwyr wedi’u hachredu’n llawn ac yn cael eu hasesu’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod eich archeb yn eich cyrraedd yn y cyflwr priodol.


HACCP, COSHH
Gallwch gael yr holl ddogfennau angenrheidiol ar gyfer y cynnyrch a gyflenwir gennym drwy gysylltu â ni.

Dewch i’n cyfarfod
Bob blwyddyn rydym yn cynnal Sioe Fasnach fawr yn Hafan y Môr ger Pwllheli, â thros 50 o arddangoswyr, lle gallwch weld drosoch eich hun cymaint yr ydym yn gwerthfawrogi’ch busnes ac yn gwneud ein gorau i helpu. Mae hwn yn gyfle ichi weld, blasu a phrofi cynnyrch newydd ac edrych unwaith eto ar yr hen ffefrynnau, er mwyn eich helpu i gynllunio’ch bwydlen ar gyfer dechrau’r tymor. Gallwch fanteisio ar lawer o Gynigion Arbennig a gynigir yn y Sioe a thrafod syniadau ar gyfer y fwydlen gyda’r Cynhyrchwyr eu hunain. Cynhelir y Sioe ym mis Chwefror fel rheol – cysylltwch â’r gwasanaeth Telewerthu i gael gwybod yr union ddyddiad.

© Harlech Foodservice Cyf, Y Ffôr, Pwllheli, Gwynedd LL53 6UW.
Ffôn: 01766 810 810. Ffacs: 01766 810 862. Cedwir pob hawl.
Dylunwyd gan Mwnci Bach
Associates Logos