LLINELL ARCHEBU : 01766 810810
Harlech

Amdanom ni

Croeso i Wasanaeth Bwyd Harlech Cyf, wedi ei leoli ger Cricieth ym Mhen Llŷn yng Ngogledd Cymru.

Mae Harlech, a gychwynnodd fel cwmni teuluol bychan yn 1972, yn dal yn gwmni annibynnol sy’n berchen i ac yn cael ei reoli gan y teulu ac yn cyflogi dros 70 aelod o staff lleol llawn amser – y rhan fwyaf ohonynt yn ddwyieithog.

Rydym yn cyflenwi ystod eang o sefydliadau dros Ogledd Cymru ac Arfordir y Cambrian, yn cynnwys ysgolion ac ysbytai, tafarndai, caffis, gwestai, bwytai, safleoedd hamdden a thymhorol.

Mae ein dewis o gynnyrch yn tyfu’n gyson yn unol â newidiadau mewn tueddiadau ac yn anghenion cwsmeriaid. Cynigiwn wasanaeth cwbl gynhwysfawr i’r arlwywr.

Er mwyn cystadlu’n effeithiol gyda chwmnïau cenedlaethol, yn 1993 ymunasom â Fairway Foodservice plc, consortiwm annibynnol mwyaf y DU ar gyfer prynu bwyd.

Yn fwy diweddar, ymunasom â grwpiau prynu Ice Cream World a Nisa Today. Mae hyn wedi rhoi grym prynu cenedlaethol cynhwysfawr i Harlech ym mhob un o gategorïau’r sector gwasanaeth bwyd, h.y. bwyd rhew, groser, oer, cynnyrch glanhau, tafladwy a hufen iâ, ac ar yr un pryd wedi ein galluogi i gadw’r atebolrwydd lleol a’r gwasanaeth personol, ein nodweddion a’n cryfderau amlycaf.

Gwasanaeth Bwyd Harlech Cyf, Parc Bwyd, Llanystumdwy, Criccieth, Gwynedd, LL52 0LJ
Rhif Ffôn: 01766 810810 Ebost: info@harlech.co.uk
Rhif Cwmni Cofrestredig: 01413059