LLINELL ARCHEBU : 01766 810810
the depot

Ein Depo newydd

Rydym yn falch iawn o’n depo newydd. Fe’i hadeiladwyd ar ein cyfer ac fe symudom iddo yn 2010.

Roeddem wedi tyfu’n llawer rhy fawr i’n hen safle, nad oedd yn cynnig math o le i ehangu. Yn ei sgil, daw’r adeilad newydd ag effeithiolrwydd gweithredol anferth, arbedion ariannol a manteision amgylcheddol sylweddol.

Mae gennym bellach fwy o rym i swmp-brynu oherwydd y lle ychwanegol i storio yn y warws, sy’n golygu bod llai o gynwysyddion yn cael eu hanfon inni.

Rydym wedi gweld y defnydd a wnawn o ynni yn haneru bron gyda chyflwyniad goleuadau LED sy’n synhwyro symudiadau yn y swyddfeydd ac yn allyrru ychydig iawn o wres, mae insiwleiddio ychwanegol a moduron ffan sy’n arbed ynni yn y storfa oer. Rydym hefyd yn cynnal rhaglen ailgylchu dŵr er mwyn golchi ein cerbydau. Rydym yn dal i ailgylchu ein cardbord, papur a phlastig, fel y gwnaethem ar ein hen safle, a bellach mae gennym gyfleusterau ychwanegol er mwyn ailgylchu gwydr a chaniau yma ar ein safle newydd.

Mae’r holl newidiadau hyn yn golygu y gallwn drosglwyddo’r arbedion a wnawn i’n cwsmeriaid a pharhau i gynnig y gwasanaeth gorau a chynnyrch o ansawdd am brisiau cystadleuol.

Gwasanaeth Bwyd Harlech Cyf, Parc Bwyd, Llanystumdwy, Criccieth, Gwynedd, LL52 0LJ
Rhif Ffôn: 01766 810810 Ebost: info@harlech.co.uk
Rhif Cwmni Cofrestredig: 01413059