Gwasanaeth Bwyd Harlech Foodservice
Hafan Amdanom Cynnyrch Gwasanaeth Ffeiliau iw llwytho i lawr Cysylltu Gwefan Gymraeg English Website

DANFON YSTOD EANG O WASANAETHAU BWYD AT EICH DRWS

Arlwyo
Bwydydd wedi’u Rhewi Hufen Iâ i’w Sgwpio, yn cynnwys Welsh Maid, ein hufen iâ arbennig ni Bwydydd Sych Bwydydd Oer Nwyddau Glanhau a Chynnyrch untro

Hufen Iâ i’w fwyta’n syth
Ystod eang gan y prif gynhyrchwyr

YN CYDYMFFURFIO’N LLWYR AG ISO 9001:2000 AC STS

Gwasanaeth Bwyd Harlech Foodservice

Cynnyrch Arbennig o Gymru

Rydym yn ceisio cefnogi Cyflenwyr Cymreig lle bynnag y bo modd. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod rhai wedi dechrau drwy gyflenwi nwyddau i ni, a’u bod wedyn wedi cael eu cyflwyno i aelodaeth Fairway yn ei chyfanrwydd.
Llaeth, caws ac wyau
Hufen iâ i’w sgwpio
Prydau parod o safon uchel
Pwdinau blasus
Dr Ffynnon o Gymru
Cemegolion Glanhau
Sylwer nad yw cynnyrch Cymreig o reidrwydd yn cynnwys cynhwysion Cymreig – mae’n bosib mai dim ond wedi cael eu cynhyrchu yma y mae rhai ohonynt, ond mae hynny’n dal i helpu i ddiogelu swyddi lleol ac yn lleihau milltiroedd bwyd.



Cynnyrch Label Fairway

Wedi’u cynllunio i gynnig cynnyrch o safon uchel am bris rhesymol iawn. Mae’r rhain yn cynnwys corgimychiaid, cacen gyffug, sglodion a phrydau parod.

Hufen Ia Welsh Maid


Beth yw barn y Panel?
Ddwy waith y flwyddyn mae aelodau Fairway (gan gynnwys Harlech) yn dod at ei gilydd i flasu cynnyrch newydd. Os nad yw’r cynnyrch yn bodloni meini prawf y Beirniaid, nid ydynt yn cael eu cynnwys.

Datblygu Cynnyrch Newydd
Bob mis mae cyflenwyr dethol naill ai’n adolygu’r cynnyrch presennol neu’n cyflwyno cynnyrch newydd er mwyn i’r Cynrychiolwyr, y staff Telewerthu a’r staff Prynu eu blasu a chynnig adborth. Drwy wneud hyn, rydym i gyd yn cynyddu’n gwybodaeth am y cynnyrch (ac yn ennill pwysau hefyd yn anffodus) er mwyn gwella ansawdd y cynnyrch. Mae’n Cynrychiolwyr hefyd yn gwerthfawrogi awgrymiadau gan gwsmeriaid am gynnyrch newydd neu newidiadau i gynnyrch.

© Harlech Foodservice Cyf, Y Ffôr, Pwllheli, Gwynedd LL53 6UW.
Ffôn: 01766 810 810. Ffacs: 01766 810 862. Cedwir pob hawl.
Dylunwyd gan Mwnci Bach
Associates Logos