|
Cynrychiolwyr
Os ydych yn newydd i’r ardal, mae’n Cynrychiolwyr yn dda iawn
am gynnig cyngor a gwybodaeth am reoli cegin, cynllunio bwydlenni
a dewis cynnyrch. Mae gennym arbenigwyr ym maes Arlwyo, Hufen
Iâ, Glanhau a Chynnyrch Untro. Cysylltwch â ni neu defnyddiwch
y ffurflen ymholiadau awtomataidd ar y dudalen Cysylltu.
Telewerthu
Mae’r staff Telewerthu bob amser yn barod i gymryd eich archeb
yn Gymraeg neu yn Saesneg. Gallant eich helpu hefyd â gwybodaeth
am gynnyrch, dyddiadau danfon a Chynigion Arbennig. Byddwn yn
derbyn archebion dros y ffôn neu’r ffacs, neu gallwch ffonio ymlaen
llaw a chasglu’ch archeb yn bersonol yr un diwrnod. Nid ydym yn
derbyn archebion e-bost ar hyn o bryd, ond rydym yn treialu archebion
ar-lein.
Rheoli Ansawdd
Does neb yn berffaith ac rydym yn barod iawn i gyfaddef bod pethau’n
gallu mynd o chwith, felly os ydym ni, neu un o’n cyflenwyr wedi’ch
siomi mewn rhyw ffordd, byddai’n well gennym bob amser pe baech
yn gadael inni wybod, yn y gobaith y gallwn unioni’r cam a sicrhau
nad yw’r un peth yn digwydd
|
Marchnata
Os yw’ch busnes chi’n ffynnu, mae’n busnes ninnau’n ffynnu, felly
byddwn yn gwneud ein gorau i’ch helpu. Yn aml iawn gallwn gael
deunydd gwybodaeth a bwydlenni am ddim gan gyflenwyr i helpu i
gefnogi’ch busnes. Holwch eich Cynrychiolydd Harlech am fanylion.
Byddwn yn anfon Cynigion Arbennig bob mis gyda’ch cyfriflen, a
gallwch eu llwytho i lawr o’r wefan hon. Os ydych yn gwsmer sy’n
talu wrth dderbyn a heb fod yn cael cyfriflen, gallwch ofyn inni
roi eich enw ar ein rhestr bostio.
Agor Cyfrif / Ymholiadau yn ymwneud â
Chyfrifon
Os hoffech gysylltu â ni i drafod ymholiadau yn ymwneud â Chyfrifon
ffoniwch 01766 812 812. Gallwch argraffu Ffurflen Gais am Gyfrif
Newydd a Mandad Debyd Uniongyrchol o’r dudalen sy’n cynnwys ffeiliau
i’w llwytho i lawr.
Talu
Gallwn gynnig gwahanol fathau o gyfrifon sy’n addas i’ch anghenion.
Gallwch dalu â cherdyn credyd cyn i’r nwyddau gael eu hanfon,
ag arian parod pan ddanfonir y nwyddau neu arwyddo mandad Debyd
Uniongyrchol ar gyfer trefniant credyd sy’n amrywio o gredyd wythnos
i gredyd mis. Rydym yn cysylltu ag asiantaeth asesu statws credyd
er mwyn canfod faint o gredyd i’w roi i gwsmeriaid.Rhaid llenwi
mandad Debyd Uniongyrchol er mwyn cael cyfrif credyd. .
|